Main content

Browni Mwyar Llyr ap Glyn

Y Cynhwysion

200g Siocled Tywyll (oleia 70% coco)

100g Siocled Llaeth

200g o Fenyn

350g Siwgr Brown Meddal

4 Wy

150g Blawd Plaen

50g Powdr Coco

150g Mwyar Duon

Dull

Cynheswch y popty i 180C

Gosodwch bapur pobi (Baking Paper) ar dre coginio tua 20cm wrth 30cm gan frwsio menyn ar ddwy ochr y papur er mwyn ei gadw yn ei le.

Rhowch y menyn, siwgr, a'r siocled mewn sosban, a'u toddi ar wres isel gan eu cymysgu'n gyson nes bydd y siocled ar menyn wedi toddi'n gyfan gwbl.

Unwaith bydd y gymysgedd wedi toddi, tynnwch oddi ar y gwres a'i gadael i oeri am 10 munud.

Fesul un, cymysgwch y wyau i mewn i'r gymysgedd, gan ei droi yn gyson.

Hidlwch y powdr coco ar blawd i mewn i'r gymysgedd a chymysgwch yn araf nes bydd pob dim wedi ei gyfuno.

Cymysgwch y mwyar duon i mewn i'r gymysgedd a tolltwch i gyd i mewn i'r tre pobi, gan sicrhau ei fod wedi ei gorchuddio'r tre yn gyson.

Pobwch yn y popty am 30 munud.

Gadewch i oeri ar dre gwifren, cyn eu torri yn sgwariau.

Mwynhewch!

Browni Mwyar Llyr ap Glyn

Rysait Browni Mwyar Llyr ap Glyn.